Manyleb ar gyfer swydd Cynghorwr Arbenigol ar Drethiant i Bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn awyddus i benodi cynghorwr neu gynghorwyr i ddarparu cyngor technegol ac arbenigol i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth Trethi sydd ar ddod.

 

Mae Deddf Cymru 2014 yn nodi pwerau ariannol newydd i Gymru, gan gynnwys pwerau benthyg ar gyfer buddsoddi cyfalaf a phwerau mewn perthynas â threthiant. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno nifer o Filiau yn y blynyddoedd nesaf ar gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru a threthi Cymreig megis Treth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi.

 

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle unigryw hwn i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid mewn cyfnod cyffrous o ran datganoli cyllidol, anfonwch CV a llythyr eglurhaol ynghylch sut yr ydych yn bodloni manyleb y person at SeneddFinance@Cynulliad.Cymru

 

Mae'r penodiad cyntaf yn debygol o ddechrau ym mis Mehefin 2015 gyda'r nod o roi cyngor ar y Bil casglu a rheoli trethi datganoledig. Mae amlinelliad o'r rôl hon yn Atodiad A.

 

Manyleb y Person

Sgiliau/Galluoedd- rhaid i'r cynghorwr allu profi ei fod yn meddu ar sgiliau dadansoddi, yn enwedig o ran materion trethi. Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i egluro materion technegol neu gymhleth yn hanfodol.

 

Profiad- bydd gan y cynghorwr brofiad helaeth o faterion sy'n ymwneud â chyfraith treth a chyllid cyhoeddus. Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd gwleidyddol yn fanteisiol.

 

Gwybodaeth- Dylai ymgeiswyr feddu ar wybodaeth drylwyr o system dreth y DU, a byddai gwybodaeth am y trethi hynny s'n cael eu datganoli i Gymru yn ddefnyddiol. Dylai'r cynghorwr allu dangos dealltwriaeth dda o rôl a chylch gwaith y Pwyllgor Cyllid.

 

Mae'n debygol y bydd y penodiad yn gofyn ymrwymiad o 15 diwrnod (dros bedwar neu bum mis); telir cyfradd y Cynulliad ar gyfer Cynghorwyr Arbenigol o £200 y dydd [gellir talu cyfraddau uwch i ymgeiswyr eithriadol]

 

Atodiad A

 

Ymysg pethau eraill, mae a wnelo'r rôl â:

 

·         rhoi sesiwn briffio rhagarweiniol i’r Pwyllgor ar y Bil a'r Memorandwm Esboniadol;

·         gweithio gyda thîm y Pwyllgor drwy gydol yr ymchwiliad er mwyn

paratoi ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar (a bod yn bresennol ynddynt lle bo rhaid), gan ganfod themâu sy'n dod i'r amlwg yn yr ymchwiliad;

·         cyfrannu i bapur a fydd yn nodi materion allweddol yr ymchwiliad wrth iddo ddod i ben;

·         adolygu adroddiad drafft y Pwyllgor a chyflwyno sylwadau arno, gan gynnwys prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor;

·         rhoi'r cyngor sydd ei angen ar y Pwyllgor, y Cadeirydd a'r tîm.